Peredur Owen Griffiths AS
 Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
 
 Drwy e-bost
                                                                                                                                                      

11 Rhagfyr 2023

Annwyl Peredur

Diolch am eich llythyr dyddiedig 18 Hydref 2023 ac am y cyfle i gyfrannu at yr Adolygiad o Broses y Gyllideb Atodol.

Er mwyn nodi ein materion, fe amlinellaf y broses ar gyfer cyllidebu ar gyfer y Comisiwn, a'r prif resymau pam y mae’n ofynnol i ni ddefnyddio’r broses o wneud cais am gyllideb atodol.

 

Mae Comisiwn y Senedd, oherwydd amseriad gosod ei gyllideb ddrafft erbyn 1 Hydref, sef bron ddeufis cyn Datganiad hydref y DU a thri mis cyn cyllideb Llywodraeth Cymru, yn canfod ei fod  yn gorfod gosod cyllidebau sy’n seiliedig ar wybodaeth sydd wedi dyddio, neu’n methu â chyllidebu’n gywir gan ei fod yn aros am benderfyniadau sy’n cael eu cymryd yn unol ag amserlen cyllideb Trysorlys y DU.  Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

 

·         Y newidiadau trethiant a nodwyd yn natganiad yr Hydref;

·         Y Prisiad Tair Blynedd o bensiwn y Gwasanaeth Sifil a’r newidiadau i gyfraniadau pensiwn y cyflogwr;

·         Prosiectau mawr nad yw’r manylion amdanynt wedi'u nodi'n llawn ar adeg y cyllidebu, a gyflwynir chwe mis llawn cyn dechrau'r flwyddyn y mae'r gyllideb yn berthnasol iddi.

 

Mae'r mathau hyn o newidiadau yn creu'r angen am geisiadau cyllideb atodol er mwyn, naill ai wneud cais am ragor o arian neu ddychwelyd arian oherwydd costau is. Mewn rhai blynyddoedd canfyddwn fod yn rhaid inni wneud y ddau beth hyn.

 

Isod rwyf wedi nodi ein barn ar y prosesau ar gyfer y gyllideb atodol a'r gyllideb flynyddol, ac wedi gwneud rhai awgrymiadau ar sut y gellid mynd i'r afael â rhywfaint o hyn.

 

Y Gyllideb Atodol

Mae'r taliad costau byw a wnaed i staff y Comisiwn yn y flwyddyn ariannol hon wedi amlygu rhai problemau gyda phroses y gyllideb atodol y gallai fod yn ddefnyddiol mynd i'r afael â hwy.  

Mae Adran 126 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA) yn manylu ar y broses ar gyfer cyllideb atodol i Lywodraeth Cymru ac ar gyfer y cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru (sef Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol neu “DFBs”). 

Ymhelaethir ar ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru yn y Rheolau Sefydlog.  Deallaf mai’r arfer a anogwyd gan y Pwyllgor a’ch rhagflaenodd, ac a barhaodd gyda’r Pwyllgor Cyllid presennol, oedd i’r DFBs gyflwyno Memoranda Esboniadol drafft cyn i’r cynnig cyllideb atodol gael ei osod gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd hyn gyfle i'r Pwyllgor graffu ar y ceisiadau.  Roedd y broses hon yn lleihau’r risg y byddai cais gan Gorff a Ariennir yn Uniongyrchol yn arwain at wrthod cyllideb atodol gyfan Llywodraeth Cymru.

Mae’r Comisiwn yn derbyn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru yn unig gael yr hawl i gyflwyno cynigion cyllideb atodol.  Byddai'n ddefnyddiol, fodd bynnag, i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i ffurfioli'r broses a ddisgrifir uchod.  Felly, pan fyddai dyddiad cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru yn hysbys, y byddai Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol, pe bai angen amrywio eu cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn cyflwyno eu memorandwm esboniadol i'r Pwyllgor cyfrifol.  Byddai hyn yn digwydd cyn i’r cynnig gael ei gyflwyno, er mwyn caniatáu amser i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad a gwneud argymhellion ynghylch y ceisiadau am wybodaeth ychwanegol a wneir gan y Corff/Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol. 

Byddai’r dull hwn yn dileu unrhyw ganfyddiad y gallai Llywodraeth Cymru “rwystro” ceisiadau gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol a chynnal eu hannibyniaeth.

Cynnig Cyllideb Blynyddol

Fel y gwyddoch, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi cynnal digwyddiad cyllidol yr hydref sydd wedi arwain at fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ohirio cyhoeddi ei Chyllideb.  Mae’r anawsterau sy’n gysylltiedig â digwyddiad cyllidol hwyr yn y DU hefyd yn berthnasol i’r Comisiwn pan fyddwn yn paratoi ein cyllideb flynyddol.  Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried bod Rheolau Sefydlog 20.13 a 20.14 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn osod ei gynigion cyllideb ddrafft erbyn 1 Hydref fan bellaf ac i bwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion hynny erbyn 22 Hydref.  O ganlyniad, mae’n aml yn ofynnol i ni baratoi a gosod ein cyllideb ddrafft a’n cyllideb derfynol ar sail cyd-destun cyllidol anghyflawn.  Felly, ni allwn gyllidebu mor gywir ag yr hoffem oherwydd ein bod yn aros am benderfyniadau ynghylch lefelau ariannu o fewn Cronfa Gyfunol Cymru.  Cododd yr anhawster hwn yn arbennig eleni mewn perthynas â phrisiad tair blynedd Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (gweler fy llythyr dyddiedig 13 Tachwedd 2023).

Yn y pen draw, credwn y gallai fod yn ddefnyddiol diwygio'r Rheolau Sefydlog fel y gellir symud amserlen cyllideb y Comisiwn i ddyddiad diweddarach.  Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gallai digwyddiadau cyllidol y DU newid eto i ddyddiad yn y gwanwyn a byddem am osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad i hynny.  Am y rheswm hwnnw, yn y tymor byr, hoffem awgrymu newid bach i Reol Sefydlog 20.20 i ehangu’r amgylchiadau lle gallai’r Comisiwn gynnig amserlen wahanol i’r un a nodir yn y Rheolau Sefydlog.  Awgrymir y gallai’r cyfeiriad at adolygiad o wariant fod yn ehangach, er mwyn caniatáu i’r Comisiwn ofyn am hyblygrwydd pe bai datganiad yr hydref yn hwyr, neu os mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gosod cyllideb ddrafft hwyr.

Credwn y byddai gwneud y newid bach hwn yn rhoi'r hyblygrwydd inni newid amserlen cyllideb y Comisiwn pe bai digwyddiadau cyllidol ehangach yn arwain at y byddai hyn yn gwella ein gallu i gyllidebu'n gywir ac effeithiol.

 

Gobeithio bod y sylwadau hyn o gymorth.

 

Yn gywir

Diagram  Description automatically generated with low confidence

Ken Skates AS

copi at Gomisiynwyr y Senedd, Manon Antoniazzi, Kate Innes

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English.